NewzIntel.com

    • Checkout Page
    • Contact Us
    • Default Redirect Page
    • Frontpage
    • Home-2
    • Home-3
    • Lost Password
    • Member Login
    • Member LogOut
    • Member TOS Page
    • My Account
    • NewzIntel Alert Control-Panel
    • NewzIntel Latest Reports
    • Post Views Counter
    • Privacy Policy
    • Public Individual Page
    • Register
    • Subscription Plan
    • Thank You Page

MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cyngor Dinas Caergrawnt

Written by

MIL-OSI Publisher

in

AM-NC, CTF, DJF, Europe, European Union, KB, MIL-OSI, Sport, Sport and recreation, United Kingdom

Source: United Kingdom – Executive Government & Departments

Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cyngor Dinas Caergrawnt

Adeiladu nodau cyffredin a chysoni â’r strategaeth adeiladu cyfoeth cymunedol

Mae gan Gyngor Dinas Caergrawnt strategaeth wrth-dlodi ers 2014 a honno wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Dros y deng mlynedd diwethaf mae dull y cyngor wedi esblygu. Er mwyn mynd i’r afael ag achosion hirdymor dwfn tlodi, cydnabu’r cyngor fod angen iddyn nhw weithredu dull cyffredin sy’n cyfuno arweinyddiaeth gan y cyngor a chydweithio â chymunedau lleol ac ystod o bartneriaid lleol a rhanddeiliaid allweddol i godi eu heffaith ar y cyd i’r eithaf. Arweiniodd hyn at ddatblygu strategaeth Adeiladu Cyfoeth Cymunedol (CWB), a fabwysiadwyd yn 2024.

Nod dull CWB yw mynd i’r afael ag achosion tlodi trwy weithio’n gyfannol ar draws y sectorau tuag at weledigaeth a nod cyffredin gyda’r holl randdeiliaid; trwy gyfuno asedau, cyfrifoldebau statudol a rôl ymgynnull y cyngor â’r gwasanaethau, y dulliau a’r perthnasoedd y gall y sectorau cymunedol, gwirfoddol, busnes a chyhoeddus eu darparu.

Mae yna themâu allweddol sy’n sail i ddull CWB y Cyngor, gan gynnwys:

  • sicrhau bod dull cyfannol ar y cyd o fynd i’r afael â thlodi bob amser yng nghanol rhaglenni a phrosiectau yn y dyfodol; gweithio ar draws sefydliadau a sectorau er mwyn creu atebion

  • sut y gall y cyngor archwilio cyfleoedd i ddefnyddio’u harweinyddiaeth a’u hasedau i gynhyrchu cyfoeth yn ôl i’r gymuned, gan gynnwys gwerth cymdeithasol o gontractau a thrwy ddefnyddio adeiladau a thir y cyngor yn well

  • gweithio gyda’r sector preifat lleol i gefnogi economi lleol cynaliadwy a chynhwysol

Un enghraifft o egwyddorion newydd strategaeth CWB yw prosiect Shaping Abbey. Mae Shaping Abbey yn dwyn ynghyd drigolion lleol, y gymdeithas sifil a phartneriaid o’r sector preifat, ochr yn ochr â buddsoddiad o £100 miliwn a gefnogir gan y cyngor a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ailddatblygu rhannau o Ward Abbey yng ngogledd-ddwyrain Caergrawnt. Yma, mae trigolion a grwpiau cymunedol wedi bod yn rhan annatod o lunio dyfodol Ward Abbey, ac wedi bod yn rhan o sgyrsiau Shaping Abbey, lle mae lleisiau cymunedol wedi bod yn ganolog i ddatblygiad yr ardal. Mae rhaglen gysylltiedig Focus on Abbey yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol lleol.

Y gwersi allweddol

Trwy eu strategaeth CWB, datblygodd Cyngor Dinas Caergrawnt ddull partneriaeth newydd gyda sefydliadau’r gymdeithas sifil leol, a rhanddeiliaid lleol ehangach, ar sail gweledigaeth gyffredin i fynd i’r afael â thlodi ledled y ddinas.

Updates to this page

Published 17 July 2025

MIL OSI United Kingdom –

←MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Calderdale
MIL-OSI Submissions: Economy – India gains trade momentum amid tariff and global supply chain shakeup, says GlobalData→

More posts

  • MIL-OSI United Nations: World News in Brief: First UN mission to Syria’s Sweida, fresh displacement in Haiti, new lightning record

    August 5, 2025
  • MIL-OSI Canada: Edmonton resident charged with drug importation

    August 5, 2025
  • MIL-OSI USA: Schakowsky, Markey, Ruiz, Jayapal Introduce Dr. Paul Farmer Memorial Resolution Outlining 21st Century Global Health Strategy 

    August 5, 2025
  • MIL-OSI New Zealand: Minister announces SOE appointments

    August 5, 2025
NewzIntel.com

NewzIntel.com

MIL Open Source Intelligence

  • Blog
  • About
  • FAQs
  • Authors
  • Events
  • Shop
  • Patterns
  • Themes

Twenty Twenty-Five

Designed with WordPress