NewzIntel.com

    • Checkout Page
    • Contact Us
    • Default Redirect Page
    • Frontpage
    • Home-2
    • Home-3
    • Lost Password
    • Member Login
    • Member LogOut
    • Member TOS Page
    • My Account
    • NewzIntel Alert Control-Panel
    • NewzIntel Latest Reports
    • Post Views Counter
    • Privacy Policy
    • Public Individual Page
    • Register
    • Subscription Plan
    • Thank You Page

MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cytundeb VCFSE

Written by

MIL-OSI Publisher

in

AM-NC, CTF, DJF, Europe, European Union, Health, KB, MIL-OSI, Sport, Sport and recreation, Transport, United Kingdom

Source: United Kingdom – Executive Government & Departments

Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cytundeb VCFSE

(Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol, Crefyddol a Chymdeithasol) Manceinion Fwyaf (GM).

Cafodd [Cytundeb VCFSE Manceinion Fwyaf (GM)] ](https://www.greatermanchester-ca.gov.uk/what-we-do/communities/voluntary-community-faith-and-social-enterprise-accord/) ei lofnodi ym mis Tachwedd 2017 fel cytundeb cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus a’r gymdeithas sifil.

Sefydlwyd y Cytundeb gan Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a Phartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Manceinion Fwyaf gyda grŵp o arweinwyr y gymdeithas sifil wedi’u lleoli ym Manceinion Fwyaf er mwyn adeiladu perthynas a fyddai’n cydnabod ac yn datgloi potensial llawn y gymdeithas sifil i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y ddinas-ranbarth er budd y cyhoedd.

Mae’r Cytundeb wedi helpu i godi proffil sefydliadau’r gymdeithas sifil gydag arweinwyr y sector cyhoeddus lleol gan fwrw goleuni ar y gwerth a’r arbenigedd y gallan nhw eu cynnig. Un bartneriaeth sy’n deillio o hynny yw Uned Lleihau Trais Manceinion Fwyaf (GMVRU) rhwng y llywodraeth, yr heddlu, iechyd, addysg, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, awdurdodau lleol, asiantaethau statudol eraill a’r gymdeithas sifil. Mae’r GMVRU wedi ymrwymo i arddel ymagwedd a arweinir gan y gymuned yn ei hymdrechion i atal trais. Mae’r dull yma yn cydnabod gwerth a chryfder sefydliadau’r gymdeithas sifil wrth weithio’n agos gyda chymunedau, i ddeall eu hanghenion, eu heriau a’u cryfderau mewn perthynas ag atal trais. Mae hefyd yn rhoi penderfyniadau yn nwylo cymunedau, gan gynnwys gosod blaenoriaethau a chytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau ac ymyriadau sy’n anelu at ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae mentrau’r VRU wedi cynnwys rhaglen StreetDoctors dan arweiniad y gymdeithas sifil, sy’n darparu sesiynau hyfforddi i bobl ifanc weithredu mewn argyfwng meddygol. Yn sgil hyn roedd 95% o’r bobl ifanc yn gwybod beth i’w wneud os byddai rhywun yn gwaedu neu’n anymwybodol, ac roedd 85% yn barod i weithredu mewn argyfwng meddygol.

Mae [Adroddiad Interim ar Gynnydd Cytundeb VCFSE Manceinion Fwyaf] https://www.vcfseleadershipgm.org.uk/resources/greater-manchester-vcfse-accord-interim-progress-report)  yn awgrymu gwella gwelededd y Cytundeb ac ymgorffori ei egwyddorion ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus. Bydd hyn yn gwella cydnabyddiaeth o werth y gymdeithas sifil ar draws Manceinion Fwyaf, a thrwy hynny yn cefnogi mwy o gyfranogiad gan VCSEs a chynyddu lleisiau dinasyddion mewn gwaith ledled Manceinion Fwyaf.

Updates to this page

Published 17 July 2025

MIL OSI United Kingdom –

←MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Awdurdod Llundain Fwyaf
MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Clymblaid Troseddau Cyllyll y Swyddfa Gartref→

More posts

  • MIL-OSI United Nations: World News in Brief: First UN mission to Syria’s Sweida, fresh displacement in Haiti, new lightning record

    August 5, 2025
  • MIL-OSI Canada: Edmonton resident charged with drug importation

    August 5, 2025
  • MIL-OSI USA: Schakowsky, Markey, Ruiz, Jayapal Introduce Dr. Paul Farmer Memorial Resolution Outlining 21st Century Global Health Strategy 

    August 5, 2025
  • MIL-OSI New Zealand: Minister announces SOE appointments

    August 5, 2025
NewzIntel.com

NewzIntel.com

MIL Open Source Intelligence

  • Blog
  • About
  • FAQs
  • Authors
  • Events
  • Shop
  • Patterns
  • Themes

Twenty Twenty-Five

Designed with WordPress