NewzIntel.com

    • Checkout Page
    • Contact Us
    • Default Redirect Page
    • Frontpage
    • Home-2
    • Home-3
    • Lost Password
    • Member Login
    • Member LogOut
    • Member TOS Page
    • My Account
    • NewzIntel Alert Control-Panel
    • NewzIntel Latest Reports
    • Post Views Counter
    • Privacy Policy
    • Public Individual Page
    • Register
    • Subscription Plan
    • Thank You Page

MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Evaluation Support Scotland (ESS)

Written by

MIL-OSI Publisher

in

AM-NC, CTF, DJF, Europe, European Union, Great Britain, KB, MIL-OSI, Sport, Sport and recreation, United Kingdom

Source: United Kingdom – Executive Government & Departments

Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Evaluation Support Scotland (ESS)

Gwella gwasanaethau trwy fesur effaith.

Mae Evaluation Support Scotland (ESS) yn elusen yn yr Alban sy’n helpu sefydliadau’r gymdeithas sifil, ymddiriedolwyr a chyllidwyr, i fesur a dangos eu heffaith trwy werthuso. Y nod yw defnyddio data a thystiolaeth ynglŷn ag effaith i lywio datblygiad polisïau yn y dyfodol; cafodd ei greu ar ôl i ymchwil ganfod nad oedd gan lawer o sefydliadau a chyllidwyr y trydydd sector (gan gynnwys cyrff cyhoeddus) mo’r sgiliau a’r adnoddau i wneud gwerthusiadau ac i ddefnyddio’r ddirnadaeth i lywio penderfyniadau.

Mae ESS yn cael cyllid craidd gan Lywodraeth yr Alban i ddarparu gweithdai agored, cymorth wedi’i deilwra, modiwlau dysgu hunangyfeiriedig ar-lein am ddim, a chyfoeth o adnoddau ar-lein. Maen nhw hefyd wedi datblygu nifer o ganllawiau i gyllidwyr a sefydliadau, gan gynnwys [pum egwyddor gwerthuso da] (https://evaluationsupportscotland.org.uk/ess-principles-for-good-evaluation), sy’n galluogi sefydliadau i gael mewnwelediadau mewn amser real, addasu eu gwaith a pharhau i ymateb i adborth gan gymunedau a dinasyddion. Cafodd partneriaeth ei chreu hefyd â Llywodraeth yr Alban i ddatblygu egwyddorion partneriaeth gadarnhaol](https://evaluationsupportscotland.org.uk/wp-content/uploads/2020/08/final_prinicples_for_positive_partnership.pdf), i wella’r berthynas rhwng rheolwyr grantiau a deiliaid grantiau, gan ddarparu cyngor ymarferol i gryfhau’r ddau barti.

Yn 2023, ariannwyd ESS gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF), mewn ymateb i gynllun gweithredu digartrefedd Llywodraeth yr Alban, i ganolbwyntio ar atal digartrefedd yn Glasgow a Chaeredin. Gyda chefnogaeth ESS, gallai sefydliadau dynnu sylw at effaith eu gwaith yn well a helpodd hyn i lywio’r broses o dargedu gweithgareddau yn y dyfodol.  Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhai sy’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref:

  • yn gallu cael mynediad at wasanaethau sy’n ateb eu hanghenion, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau allgymorth ieuenctid

  • yn cael mwy o fynediad at lety mwy addas i’w hanghenion

  • yn cael mwy o ddylanwad ar y systemau sy’n effeithio arnyn nhw, trwy gynnwys profiadau byw o fewn polisïau cymdeithasau tai

Mae gwaith ESS wedi helpu’r TNLCF i wneud penderfyniadau ynghylch cyllido prosiectau yn y dyfodol, ac wedi sicrhau bod ffrydiau cyllido’r dyfodol yn cael eu hysbysu am gymorth ac ymyriadau effeithiol oedd yn cael effaith go iawn ar y bobl y cawson nhw eu cynllunio i’w cefnogi.

Updates to this page

Published 17 July 2025

MIL OSI United Kingdom –

←MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Grŵp Gorchwyl a Gorffen Hygyrchedd Hedfan (AATFG)
MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Labordy Canlyniadau Llywodraeth (GO Lab)→

More posts

  • MIL-OSI United Nations: World News in Brief: First UN mission to Syria’s Sweida, fresh displacement in Haiti, new lightning record

    August 5, 2025
  • MIL-OSI Canada: Edmonton resident charged with drug importation

    August 5, 2025
  • MIL-OSI USA: Schakowsky, Markey, Ruiz, Jayapal Introduce Dr. Paul Farmer Memorial Resolution Outlining 21st Century Global Health Strategy 

    August 5, 2025
  • MIL-OSI New Zealand: Minister announces SOE appointments

    August 5, 2025
NewzIntel.com

NewzIntel.com

MIL Open Source Intelligence

  • Blog
  • About
  • FAQs
  • Authors
  • Events
  • Shop
  • Patterns
  • Themes

Twenty Twenty-Five

Designed with WordPress