NewzIntel.com

    • Checkout Page
    • Contact Us
    • Default Redirect Page
    • Frontpage
    • Home-2
    • Home-3
    • Lost Password
    • Member Login
    • Member LogOut
    • Member TOS Page
    • My Account
    • NewzIntel Alert Control-Panel
    • NewzIntel Latest Reports
    • Post Views Counter
    • Privacy Policy
    • Public Individual Page
    • Register
    • Subscription Plan
    • Thank You Page

MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Awdurdod Llundain Fwyaf

Written by

MIL-OSI Publisher

in

AM-NC, coronavirus, Covid 19, CTF, DJF, Europe, European Union, KB, MIL-OSI, Sport, Sport and recreation, Transport, United Kingdom

Source: United Kingdom – Executive Government & Departments

Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Awdurdod Llundain Fwyaf

Cynyddu ymddiriedaeth gyda’r gymdeithas sifil a chymunedau yn ystod ac ar ôl COVID.

Yn ystod yr ymateb i’r pandemig COVID-19, bu Awdurdod Llundain Fwyaf (GLA) yn gweithio ar y cyd â chymdeithas sifil Llundain, gan gynnal byrddau crwn ar-lein, sesiynau briffio iechyd cyhoeddus, a digwyddiadau Sgwrs Fawr. Gan weithio gyda phartneriaid iechyd, chwaraeodd y fforymau hyn ran hanfodol wrth ategu profion a’r ymateb i’r brechlynnau, adeiladu ymddiriedaeth, a rhannu gwybodaeth gywir a diwylliannol gymwys.

Yn dilyn y pandemig, roedd yna agwedd benderfynol at ddysgu’r gwersi o’r cydweithredu yma, gan ymgorffori’r dulliau yma ymhellach mewn rhaglenni brechu a gwaith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Digwyddodd hyn yn bennaf trwy Bartneriaeth Ecwiti Iechyd Etifeddol Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd sesiynau briffio iechyd cyhoeddus, a gynullwyd ar y cyd gan y GLA a’r GIG, yn ymdrin â materion fel parodrwydd ar gyfer y gaeaf ac iechyd meddwl.

Mae’r GLA wedi cryfhau perthnasoedd ymhellach â phartneriaid cymunedol a phartneriaid ffydd o fewn eu hymagwedd at wydnwch, gan gynnwys trwy gydgynhyrchu Partneriaeth Argyfyngau Cymunedau Llundain (LCEP), sef ymagwedd a arweinir gan y gymdeithas sifil at gydlynu parodrwydd ac ymateb i argyfyngau. Mae LCEP yn eistedd ar Fforwm Gwydnwch Llundain, ochr yn ochr â’r gwasanaethau brys ac asiantaethau cyhoeddus eraill, gan ddod â gwerth y llais a’r ddirnadaeth gymunedol i ymateb brys Llundain. Mae hyn wedi helpu i adeiladu ymddiriedaeth rhwng asiantaethau a chydweithrediad â’r gymdeithas sifil mewn ymateb i ddigwyddiadau.

Y gwersi allweddol

Gall gweithio ar y cyd â’r gymdeithas sifil cyn, yn ystod ac ar ôl argyfyngau gryfhau gwydnwch ac, yn achos y pandemig, wella canlyniadau iechyd, megis y niferoedd a gymerodd y brechlynnau.  Gall modelau dan arweiniad y gymuned gynyddu ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod negeseuon ac ymagwedd y llywodraeth yn ddiwylliannol gymwys. Ar ben hynny, trwy gydnabod gwerth sefydliadau’r gymdeithas sifil o ran cyrraedd cymunedau lleol, mae’r GLA wedi llwyddo i weithio’n effeithiol gyda’r sector i fynd i’r afael â heriau cyffredin.

Updates to this page

Published 17 July 2025

MIL OSI United Kingdom –

←MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Labordy Canlyniadau Llywodraeth (GO Lab)
MIL-OSI United Kingdom: Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cytundeb VCFSE→

More posts

  • MIL-OSI United Nations: World News in Brief: First UN mission to Syria’s Sweida, fresh displacement in Haiti, new lightning record

    August 5, 2025
  • MIL-OSI Canada: Edmonton resident charged with drug importation

    August 5, 2025
  • MIL-OSI USA: Schakowsky, Markey, Ruiz, Jayapal Introduce Dr. Paul Farmer Memorial Resolution Outlining 21st Century Global Health Strategy 

    August 5, 2025
  • MIL-OSI New Zealand: Minister announces SOE appointments

    August 5, 2025
NewzIntel.com

NewzIntel.com

MIL Open Source Intelligence

  • Blog
  • About
  • FAQs
  • Authors
  • Events
  • Shop
  • Patterns
  • Themes

Twenty Twenty-Five

Designed with WordPress